hafan / Ffeithiau Trydanol

Ffeithiau Trydanol

Ollie says - If you are Taclo Trydan you should know the basic Ffeithiau Trydanol!

Ffaith Drydanol Un

Byddai ein peilonau a’n polion, o’u gosod un ar ben y llall, yn ymestyn 619,300 metr o uchder, sef yr un fath â 70 Mynydd Everest.

Ffaith Drydanol Dau

O’u gosod ben wrth ben, byddai ein ceblau’n ymestyn 66,835 cilometr, sef digon hir i fynd o amgylch y ddaear 1.5 o weithiau.

Ffaith Drydanol Tri

Bydd ein hofrenyddion sy’n patrolio’r rhwydwaith yn teithio 10,000 cilometr y flwyddyn, sef yr un fath â hedfan o Glasgow i Efrog Newydd ac yn ôl. Ar ben hynny, bydd y staff sydd ddim yn ddigon ffodus i hedfan yn cerdded 10,000 cilometr y flwyddyn wrth batrolio’r rhwydwaith Gwifrau Uwchben.

Ffaith Drydanol Pedwar

Wrth gynnal y cyflenwad trydan bydd ein staff yn gyrru 25,000,000 o filltiroedd bob blwyddyn, sydd yr un fath â gyrru i’r lleuad ac yn ôl 50 o weithiau.

Ffaith Drydanol Pump

Mae ein polyn mwyaf anghysbell 80 cilometr i ffwrdd o’n swyddfa agosaf.

Ffaith Drydanol Chwech

Bob blwyddyn byddwn yn tyllu 50,000 o dyllau i drwsio’r rhwydwaith; gyda’i gilydd mae hynny’n gyfanswm dyfnder o 91 cilometr neu ddwy waith dyfnder cramen y ddaear.

Ffaith Drydanol Saith

Mae gennym 3.38 miliwn o gwsmeriaid, yr un fath â phoblogaeth Albania.

Ffaith Drydanol Wyth

Ar gyfartaledd bydd Gorsaf Bŵer yn cynhyrchu 2.4 miliwn kwh yr awr; mewn 1 awr mae hyn yn ddigon i gyflenwi 1 tŷ am 5000 o flynyddoedd.

Ffaith Drydanol Naw

Prynwn 3,310,000 litr o olew i gynnal ein hoffer.