hafan / I Athrawon / Plant Hyn

I Athrawon : Plant Hyn

<< ynôl

Sut caiff trydan ei gynhyrchu?

Caiff ynni ei ddefnyddio o sawl gwahanol ffynhonnell, e.e. glo, olew, niwclear, nwy a gwynt, i gynhyrchu trydan mewn gorsafoedd pŵer. Bydd tyrbin yn cymryd symudiad aer, stêm neu ddŵr a'i droi'n ynni a gaiff ei fwydo'n uniongyrchol i'r generadur.

Generadur syml y bydd llawer o bobl wedi dod ar ei draws yw'r deinamo ar feic, gaiff ei droi'n uniongyrchol gan ymyl yr olwyn. Mae'r deinamo'n troi symudiad yr olwyn yn drydan i wneud i'r goleuadau weithio.

Ceir trydan stêm drwy gynhyrchu stêm a'i yrru drwy'r tyrbinau, sy'n troi'r generaduron i gynhyrchu trydan. Mae hyn yn arwain at ddau gwestiwn:

  1. Sut mae gwneud y stêm?
  2. Beth wnewch chi gyda'r stêm wedyn?

Gwneir stêm drwy wresogi dŵr. Gwneir hyn mewn boiler a gellir ei wneud drwy losgi unrhyw beth, fwy neu lai. Glo, olew a nwy yw'r prif fathau o danwydd a ddefnyddir mewn gorsafoedd pŵer. Yn anffodus, wrth losgi tanwydd cynhyrchir llawer iawn o garbon deuocsid. Mae'r nwy hwn, sy'n ymddangos yn ddigon diniwed, wedi cael y bai am yr effaith tŷ-gwydr sydd i'w gweld yn cynhesu'r byd i gyd.

Ffordd arall i wneud stêm yw gwresogi dŵr gan ddefnyddio talp o wraniwm actif. Mae adwaith niwclear yn yr wraniwm yn cynhyrchu gwres mawr sy'n berwi'r dŵr. Fydd gorsafoedd niwclear, neu atomfeydd, ddim yn cynhyrchu unrhyw garbon deuocsid, ond yn hytrach maen nhw'n cynhyrchu symiau bychain o wastraff eithriadol o beryglus.

I greu trydan dŵr, caiff y tyrbin ei yrru gan symudiad dŵr yn hytrach nag aer. Y ffordd i gael y mwyaf o drydan allan o ddŵr yw gosod argae yn yr afon a chronni'r dŵr mewn llyn. Wedyn caiff yr holl ddŵr o'r llyn ei ollwng i lawr drwy bibell gul a thrwy'r tyrbinau. Bydd y dŵr yn troi'r tyrbin, y tyrbin yn troi'r generadur a'r generadur yn gwneud y trydan.

Mae'n debyg mai melinau gwynt yw'r math hawsaf o orsaf bŵer i'w ddeall. Y llafnau sy'n cylchdroi yw'r tyrbin. Mae'r gwynt yn troi'r llafnau, ac mae'r rhain yn gyrru'r generadur. Mae melinau gwynt yn mynd yn fwy poblogaidd am eu bod nhw'n lân ac am mai ychydig iawn o niwed y maen nhw'n ei wneud i'r amgylchedd.

Thema

Caiff trydan ei wneud mewn nifer o ffyrdd.

Nods

  1. Deall sut y caiff trydan ei gynhyrchu
  2. Dechrau meddwl am dyrbinau a generaduron

Gweithgareddau a Awgrymir