hafan / I Athrawon / Plant Hyn
I Athrawon : Plant Hyn



Beth yw ynni adnewyddadwy?
Mae ynni adnewyddadwy'n rhan annatod o nod y Llywodraeth yn y tymor hir o gwtogi 60% ar ollyngiadau CO2 erbyn 2050. Mae'r Llywodraeth wedi pennu targed o 10% o'r cyflenwad trydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2010.
Ynni adnewyddadwy yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio llifoedd ynni sy'n digwydd yn naturiol ac yn barhaus yn yr amgylchedd, fel ynni o'r gwynt, tonnau neu'r llanw. Gellir olrhain tarddiad y rhan fwyaf o'r ffynonellau hyn i'r haul. Mae hyn yn golygu i bob pwrpas nad oes dim terfyn ar y ffynonellau hyn.
Y cwestiwn allweddol yw sut i dynnu'r ynni hwn mor effeithiol ag sy'n bosibl a'i drosi i ffurfiau mwy defnyddiol o ynni. Gall hyn amrywio o ddefnyddio ynni'r haul yn uniongyrchol i wresogi dŵr, i ddefnyddio dyfeisiau mecanyddol, fel melinau gwynt, i drosi'r ynni cinetig yn y gwynt i ynni trydanol.
Pam defnyddio ynni adnewyddadwy?
Mae ynni'n hanfodol i bron bob agwedd o'n bywydau o ddydd i ddydd. Ond wrth ddefnyddio tanwydd ffosil, sef y ffordd y darperir y rhan fwyaf o'n hynni ar hyn o bryd, caiff nwyon tŷ gwydr (fel carbon deuocsid) eu rhyddhau i'r atmosffer. Oherwydd ffactorau fel twf y boblogaeth a newidiadau yn ffordd pobl o fyw, mae'r galw am ynni wedi cynyddu i'r fath raddau nes bod llosgi tanwydd ffosil yn rhyddhau digon o nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer i ddechrau effeithio'n uniongyrchol ar ein system hinsawdd, a dyna pam mae mor bwysig cynhyrchu ynni o ffynonellau amgen.
Thema
Deall pam mae ffynonellau ynni adnewyddadwy mor bwysig.
Nods
- Adnabod ffynonellau ynni amgen
- Deall sut caiff y ffynonellau hyn eu harneisio i greu trydan
- Dechrau meddwl am dyrbinau a generaduron
Gweithgareddau a Awgrymir
Adeiladu tyrbin. Pwnsio twll yn y gornel dde isaf ar bob ochr carton llefrith. Rhoi selotep dros y tyllau. Ei grogi o goeden â darn o linyn. Tywallt dŵr i mewn iddo. Tynnu'r selotep oddi ar bob twll fesul un, a gwylio beth sy'n digwydd. Bydd y dŵr yn troi'r carton.