hafan / I Athrawon / Plant Hyn
I Athrawon : Plant Hyn

Sut mae trydan yn dod o'r orsaf bŵer i'ch tŷ
Pan gaiff y trydan ei gynhyrchu gan y generaduron mae oddeutu 25,000 folt. Ond dydi hyn ddim yn ddigon i'w anfon dros bellteroedd mawr, felly aiff y trydan yn gyntaf drwy newidydd yn yr orsaf bŵer sydd yn gwthio'r foltedd i fyny i 275,000 neu 400,000 folt. Pan fydd trydan yn teithio dros bellteroedd mawr mae'n well gwneud hynny ar folteddau uwch er mwyn trosglwyddo'r trydan yn fwy effeithlon.
Ar ôl gadael y newidydd aiff y trydan i mewn i'r grid. Y grid yw'r rhwydwaith o geblau a gwifrau sy'n ymledaenu ar draws y wlad. Mae'r grid yma'n cario'r trydan o'r gorsafoedd cynhyrchu i'r trefi a'r dinasoedd fydd yn ei ddefnyddio. Gelwir y gwifrau sy'n cario'r trydan yn y grid yn leiniau trawsyrru trydan, a gaiff eu cario ar draws y wlad gan beilonau.
Mae trydan o'r grid yn llawer rhy bwerus i'w ddefnyddio yn ein cartrefi a'n busnesau. Felly mae'r leiniau trawsyrru foltedd uchel yn cario trydan dros bellteroedd mawr i is-orsaf. Aiff y leiniau trydan i mewn i is-orsafoedd yn agos at fusnesau, ffatrïoedd a thai.
Yma bydd newidyddion yn gostwng foltedd uchel iawn y trydan i 132,000 folt cyn ei anfon i'r rhwydwaith dosbarthu, sef y rhwydwaith foltedd isel.
Mae'r rhwydwaith dosbarthu rhanbarthol yn cario trydan i is-orsafoedd, lle caiff y foltedd ei ostwng eto i 11,000 folt. Mae'r rhwydwaith 11,000 folt yn cyflenwi trefi, stadau diwydiannol a phentrefi, yn ogystal â rhai cwsmeriaid diwydiannol sydd â gofynion trydan mawr.
Caiff y foltedd ei ostwng unwaith eto i 230 folt mewn is-orsafoedd lleol i ddarparu trydan i'r rhan fwyaf o gartrefi a busnesau.
Thema
Deall pam mae trydan yn dod mewn gwahanol folteddau.
Nod
- Adnabod y gwahanol offer sy'n cludo trydan
- Deall pam y caiff y foltedd ei ostwng ar gyfer defnydd yn y cartref
Gweithgareddau a Awgrymir
- Edrych ar offer trydanol bob-dydd a gweld pa foltedd maen nhw'n ei ddefnyddio.
- Edrych ar luniau o beilonau a pholion i weld y gwahaniaeth yn eu maint.
- Ymweld â Gorsaf Bŵer.
- Edrych ar y PDF Rhwydwaith Dosbarthu Trydan.