hafan / I Athrawon / Plant Hyn
I Athrawon : Plant Hyn


Beth yw trydan statig?
Rydych chi'n cerdded ar draws y carped, yn ymestyn am fwlyn y drws ac yn cael sioc. Neu, rydych chi'n dod i mewn o'r oerfel, yn tynnu'ch het ac mae gwallt eich pen yn codi. Beth sy'n mynd ymlaen yma? Yr ateb yw: TRYDAN STATIG.
I ddeall beth yw trydan statig, rhaid inni ddysgu ychydig bach am natur mater. Neu mewn geiriau eraill, o beth mae'r holl stwff o'n cwmpas wedi'i wneud? Mae popeth o'n hamgylch wedi'i wneud o atomau. Felly o beth mae atomau wedi'u gwneud? Yng nghanol pob atom mae “niwclews”. Yn amgylchynu'r niwclews mae gronynnau llai fyth a elwir yn electronau.
Mae rhai defnyddiau'n dal eu helectronau'n dynn iawn. Fydd electronau ddim yn symud drwyddyn nhw'n dda iawn. Gelwir y pethau hyn yn ynysyddion. Mae plastig, brethyn, gwydr ac aer sych yn ynysyddion da. Mae gan ddefnyddiau eraill electronau sy'n cael eu dal yn llac, ac sy'n symud drwyddyn nhw'n hawdd iawn. Gelwir y rhain yn ddargludyddion. Mae'r rhan fwyaf o fetelau'n ddargludyddion da.
Sut allwn ni symud electronau o le i le? Un ffordd gyffredin iawn yw rhwbio dau beth gyda'i gilydd. Os ydyn nhw wedi'u gwneud o wahanol ddefnyddiau, a'r ddau'n ynysyddion, gall electronau gael eu symud o'r naill i'r llall. Po fwyaf o rwbio a wneir, mwyaf y bydd electronau'n symud, a mwyaf fydd y gwefrau a gaiff eu cronni.
Thema
Trydan syml, naturiol yw trydan statig
Nod
- Deall beth yw trydan statig a sut y caiff ei greu
- Gallu dangos trydan statig i eraill
Gweithgareddau a Awgrymir
Cynnal arbrawf ‘Pobol yn Neidio' gyda'r plant. Tynnu lluniau pobol fach ar bapur, eu torri nhw allan a'u rhoi ar y bwrdd. Chwythu balŵn i fyny a chlymu'r gwddw. Rhwbio'r balŵn ar siwmper wlân. Dal y balŵn uwchben y bobol ac fe neidian nhw i fyny ac i lawr. Maen nhw ym maes y balŵn ac felly'n cael gwefr bositif ac yn cael eu hatynnu at y balŵn. Pan gyffyrddant â'r balŵn cânt wefr negyddol a chael eu gwthio i ffwrdd.