hafan / I Athrawon / Plant Hyn
I Athrawon : Plant Hyn

Dargludyddion ac ynysyddion trydanol
Mae defnyddiau sy'n gallu cario cerrynt trydan yn cael eu galw'n ddargludyddion trydan. Mae dargludydd yn caniatáu i electronau lifo drwyddo. Mae'r rhan fwyaf o fetelau, carbon a defnyddiau llaith/gwlyb yn ddargludyddion da, felly dyna pam y defnyddir metelau ar gyfer ceblau a gwifrau trydanol.
Ynysyddion yw'r gwrthwyneb i ddargludyddion, all trydan ddim pasio'n hawdd drwy ynysydd. Mae ynysydd yn rhwystr i drydan. Mae plastig, brethyn, gwydr ac aer sych yn ynysyddion da. Defnyddir plastigau i orchuddio gwifrau ac fel gorchuddion i blygiau a switshis.
Thema
Mae unrhyw beth y gall trydan lifo drwyddo'n ddargludydd trydanol.
Nod
- Deall beth mae'r termau ‘dargludydd' ac ‘ynysydd' yn ei olygu
- Gwybod pa ddefnyddiau sy'n ddargludyddion da a gwael
- Deall y gall UNRHYW BETH sydd wedi'i wneud o ddargludydd da gael trydan yn llifo drwyddo
- Deall mwy am ‘ddaearu'
Gweithgareddau a Awgrymir
Defnyddio batri bloc. Cymryd darn o ffoil a'i blygu sawl gwaith. Cyffwrdd un pen i'r stribed ffoil yn erbyn top y batri; cyffwrdd y pen arall â rhan fetel bwlb golau. Bydd y bwlb yn goleuo. Rhoi amryw o ddefnyddiau eraill yn lle'r ffoil, er enghraifft gwelltyn, plastig, beiro, tun, a phrofi beth sy'n gwneud i'r bwlb oleuo.