hafan / I Athrawon / Plant Iau
I Athrawon : Plant Iau

Arwyddion Perygl
Mae arwyddion perygl yn dweud wrthych am gadw draw! Mae melyn a du yn golygu fod yno berygl. Mae'r arwyddion hyn i'w gweld ar bolion, ffensys is-orsafoedd, peilonau a phileri rhwydwaith neu yn unrhyw le lle mae yna berygl!
Enghreifftiau o arwyddion perygl :
- Perygl marwolaeth Cadwch allan i'w weld ar ffensys is-orsafoedd
- Perygl marwolaeth - i'w weld ar offer y tu mewn i is-orsafoedd
- Perygl marwolaeth - i'w weld ar bolion a pheilonau
- Perygl : safle peryglus - arwydd rhybudd i gadw allan
- SF6 - i'w weld ar offer mewn is-orsafoedd sy'n cynnwys sylffwr hecsafflworid
Thema
Cadwch lygad am arwyddion rhybudd. Maen nhw'n achub bywydau!
Nod
Beth ddylai eich disgyblion allu ei wneud ar ôl trafod y ffaith hon :
- Adnabod arwyddion rhybudd, yn enwedig yr arwydd 'Perygl Marwolaeth'.
- Gwybod y rhesymau pam mae arwyddion rhybudd yn cael eu defnyddio.
- Rhybuddio plant eraill am berygl chwarae lle mae yna arwyddion rhybudd.
Gweithgareddau a Awgrymir
- Chwarae'r gêm 'Peryglon Trydan'.
- Cael y plant i chwilio am arwyddion rhybudd trydanol dros gyfnod o ddyddiau. Cadw llyfr lòg.
- Dylunio arwydd rhybudd mewn grwpiau.
- Llwytho arwydd rhybudd i lawr.