hafan / I Athrawon / Plant Iau
I Athrawon : Plant Iau


Mae trydan yn gallu neidio
Mae trydan o ffynhonnell drydan yn gallu neidio ar draws pellter er mwyn daearu. Po uchaf yw'r foltedd, pellaf y gall y trydan neidio. Does dim angen cyffwrdd offer i fod mewn perygl; gallwch fod mewn perygl dim ond o fod yn agos at is-orsaf, polyn neu beilon. Weithiau mae'n gallu neidio cyn belled ag un metr!
Thema
Mae trydan yn ddefnyddiol ond yn beryglus iawn. Rhowch barch iddo a chadwch draw.
Nod
- Deall pwysigrwydd bod yn ofalus o gwmpas trydan.
- Deall peryglon chwarae'n agos at is-orsafoedd, gwifrau trydan neu unrhyw beth arall sy'n dal trydan foltedd uchel.
- Rhybuddio plant eraill am beryglon trydan.
Gweithgareddau a Awgrymir
- Chwarae gêm 'Peryglon Trydan' ar wefan PowerWise.
- Cael y plant i sefyll mewn rhes a neidio o'u hunfan (efallai y byddwch am roi clustogau o flaen y neidwyr). Mesur pob naid, gan bwysleisio pa mor bell yw metr mewn gwirionedd.